• Compact Disc (CD) + Digital Album

    Our debut album in a format you can listen to, use as a beer coaster, or give to your dog as an expensive and hazardous chew toy.

    Ein halbwm cyntaf ar ffurf gryno ddisg, gallwch gyffwrdd, arogli, ac, os mynnwch chi, llyfu. Gall hefyd cael ei ddefnyddio fel frisbee.

    Includes unlimited streaming of I Fight Lions via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ships out within 3 days

      £7 GBP or more 

     

lyrics

Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghanol y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw

Mae’r tarannau yn bloeddio’n y nen
Fel rhuo llewod yn bell uwchben
Mae Morus y gwynt ac Ifan y glaw
Yn chwil ar y gwasgedd isel
Mae’r byd yn ddychrynllyd ar hyn o bryd
Ond mae’r helynt ‘ma’n gysur o fy ngwely clyd
Sgenai’m mymryn o bryder; mewn cysur mae hyder
Dwi’n gyfarwydd ‘fo’r hunllef o hyd

Mae’r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae’r gwynt a’r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae’r haul yn anorfod hefyd

Does na’m byd yn y byd o bwys
Mai’n dawel braf yn nghanol y storm
Dwi ddim am boeni am ddryswch llwyr
Dim fi sydd wrth y llyw

Anghydfod y tonnau sy’n bygwth
Ceffylau mawr gwyn ar garlam rhwth
Ond mae ‘na ddigon o dîr rhwng y llanw a fi
Does na’m galw am gynnwrf na stŵr
Cau dy lygaid yn dynn
A gad dy feddylia suddo’n ddyfn
Ma’r glaw ar y gwydr yn siffrwd o gysur
Dwi’n gyfarwydd fo’r freuddwyd o hyd

Mae’r newydd yn hen erbyn hyn
Neith arwyr flodeuo ymysg y chwyn
Mae’r gwynt a’r glaw yn siwr o ddod yn pen draw
Ond mae’r haul yn anorfod hefyd

credits

from I Fight Lions, released December 2, 2013

license

all rights reserved

tags

about

I Fight Lions UK

I Fight Lions are a rock band hailing from the mountains of North Wales. Like many other bands, they write songs and perform them in public places; often for applause, seldom for money.

Mae I Fight Lions yn fand roc o ardal fynyddig Eryri. Fel llawer o fandiau eraill, maent yn sgwennu caneuon a'u chwarae nhw i bobl sy weithia'n gwrando, ond yn anaml yn talu.
... more

contact / help

Contact I Fight Lions

Streaming and
Download help

Shipping and returns

Redeem code